Rwy'n cyfansoddi a pherfformio caneuon fy hun - gwrandewch ar ddetholiad yma.
Ar 2 Medi 2022, crogodd fy annwyl frawd Harvey ei hun. Ag yntau’n ddim ond 55 oed, roedd yn gadael teulu cariadus ar ei ôl. Ni chawn wybod fyth pam.
Rwyf wedi dod i sylweddoli mor fyr a bregus yw bywyd. Rwy’n falch o fod wedi gallu mynegi fy hun drwy waith celf. Drwy lynu’n gadarn wrth fy ffydd mewn Duw sy’n caru a maddau, cefais fy hun ar lannau Môn. Yn cysylltu â hud adfywiol curiad y tonnau; yn anadlu dŵr y môr yn ddyfn i’m hysgyfaint, cefais fy hun yn canu emynau mawl ar y creigiau hynafol (fy Nghadeirlan.)
Rwy’n casglu cregyn wrth grwydro’n droednoeth, a chaf fy nghyfareddu gan brydferthwch y patrymau. Er eu bod hwythau bob un, fel ninnau, yn unigryw, mae addurn cysegredig eu Creawdwr yn eu clymu oll ynghyd.
Ym myfyrdodau’r hwyr, mae sylweddoliad rhyfeddol yn dod i’m rhan. Mae’r holl elfennau Duwiol hyn i’w cael yn ein byd ni. Mae ffurfiau ein dwylo, ein hwynebau, ein cyrff, yn arddangos holl fformiwlâu byd natur! O’r blodau a’r petalau, i’r modd y mae coed yn rhannu’n ganghennau. O’r cosmos anferthol i guriad ein calon ar sgrin ysbyty!
Yr Eidalwr Fibonacci a esboniodd uniondeb y fathemateg yn y 12 ganrif. I mi, mae fel cyffwrdd mewn dirgryniad. Mae Duw yn ymgorffori mewn cregyn ar draeth. Mae perthynas uniongyrchol rhwng sancteiddrwydd, ffydd, a thragwyddoldeb. Egwyddor graidd mathemateg yw nad oes y fath beth â diwedd. Mae ffiseg yn mynnu mai trosi a newid y mae egni. Taith ysbrydol, obeithiol o esblygiad ac esgyniad yw bywyd. Ymlaen!
Rwy’n rhyfeddu wrth weld tonnau sain ar blât metel sy’n dirgrynu, a gronynnau o dywod yn creu’r un patrymau geometregol cysegredig ag a geir ar gregyn môr ac yn ein ffurfiau ni hefyd. Rydyn ni'n dragwyddol ac yn ddwyfol! Mae fy ngwaith celf diweddaraf yn cyfuno harmoni a harddwch y ffurfiau hyn, gan adlewyrchu fy rhyfeddod tuag at ddeddfau naturiol y greadigaeth dragwyddol a Duw.
Karen Jones
(Saesneg yn unig...)
2ft by 3ft 3 inch
Oil on canvas
Size 24" Square.
Oil on wood.
Framed in white.
Karen Jones
Cilfechydd Barn
Waenfawr
LL54 7AJ
01286 650379 / 07887747869
© 2019 Karen Jones. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd